Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2022
Amser:
09.30 -
11.31
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o gyfarfod heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.
3 Trefniadau ariannu ar ôl yr UE: Trafod y materion o bwys
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion o bwys.
4 Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru: Dull recriwtio
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar bapurau yn ymwneud â phenodi Cadeirydd ac aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Y dull craffu
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y papur ar y dull o gynnal y gwaith craffu ar y gyllideb.
6 Trafod y flaenraglen waith
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU
6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU a chytunwyd i gyflwyno adroddiad.